English
Clare Maynard

BA Anrh (Peintio), Prifysgol Fetropolitanaidd Manceinion.

'Ceir ansawdd etheraidd i baentiadau a ffotograffau Clare; yn ei lluniau o ddinasoedd ceir ymdeimlad o rywbeth dilafar, nodwedd fyrhoedlog sy'n gwahodd y sawl sy'n edrych ar y llun i fyfyrio ynghylch beth yw cyfansoddiad realiti. Mae ei gallu i amgyffred yr eiliadau darfodedig hyn, sy'n cyfoethogi'r nodwedd ddilafar, ddirgel yn ei gwaith, yn hynod o arbennig.'

Benjamin Storch

  Detail of landscape painting

Datganiad Arlunydd

Cynrychioli’r dirwedd a wnaf yn fy mhaentiadau, sydd â naws o ryddid ac ehangder, a hynny ar thema teithio ac, o bryd i’w gilydd, mewn modd cysyniadol. Ceir cysylltiadau clir rhwng y paentiadau a’r amgylchedd gan eu bod yn aml yn olygfeydd o leoedd ac amseroedd sy’n dal i fodoli ac sydd, o bosibl, yn cael eu hanwybyddu yng ngorffwylltra a brys y gymdeithas fodern. Mae mwyafrif y paentiadau yn ceisio cyfleu’r adegau myfyriol hyn mewn bywyd, boed mewn lleoliad trefol neu wledig.

Mae’r deunydd yr wyf yn ei gasglu ar gyfer fy ngwaith yn seiliedig ar brofiad; dyma’r hyn yr wyf yn ei gofnodi yn fy mhaentiadau ar hyd y daith. Weithiau bydd gwrthrych rhyfedd mewn lleoliad trefol yn dal fy sylw, ac ar adegau eraill efallai mai’r modd y mae’r golau’n disgyn ar dirwedd neu drwy ffenestr a fydd yn fy nenu.

Mae gennyf ddiddordeb cynyddol mewn tirweddau cymdeithasol a’r amgylchedd cymdeithasol, ac fel arfer ceir rhesymau hynod o bersonol, yn gysylltiedig â thema benodol, i egluro pam fy mod yn mynd ar deithiau achlysurol i gael profiad o le. Yn ddiweddarach yn y stiwdio y bydd yr arbrofi gyda’r cyfansoddiad yn digwydd, a dyna pryd y caiff y paentiadau terfynol eu cynhyrchu. A minnau’n arlunydd sy’n seilio ei gwaith ar brosiectau, yr wyf fel arfer yn gwybod yn union beth yr wyf eisiau’i gyflawni, ac mae agwedd ymchwil y prosiect yn hynod o gyffrous ac yn flaenoriaeth i mi.

Mae amrywiaeth o bynciau gwleidyddol a diwylliannol yn dylanwadu ar fy ngwaith ac ar y mannau lle byddaf yn ei arddangos. Mae ffilm a ffotograffiaeth yn effeithio ar fy nhechneg a’m defnydd o liw. Weithiau byddaf yn peintio profiad gweledol hanner ffordd drwy broses o drawsnewid neu wrth deithio, a bydd y profiad hwnnw yn cael ei gofnodi ar ffurf ffotograffau ac yn arbrofol ei naws. Mae’r dyddlyfr ar fy ngwefan yn adlewyrchu hyn.

Llyfr braslunio yw’r dyddlyfr, ac mae hefyd yn rhoi cip i’r sawl sy’n edrych arno ar fy mhroses o weithio. Yr wyf yn cynhyrchu paentiadau sy’n cwmpasu nodweddion gweledol dwys ac awyrgylch arbennig sydd, ar adegau, yn dilyn arddull darlun llonydd o ffilm neu ffotograff a dynnwyd wrth symud.

Mae ymweliadau â Dwyrain Ewrop wedi darparu corff o ddeunyddiau ar gyfer eu peintio a chyswllt â diddordeb diwylliannol yn y dirwedd. Ceir atsain o ddylanwad rhai o’r diwylliannau mwy crwydrol sy’n symud drwy’r dinasoedd a’r ardaloedd gwledig yn y rhan hon o Ewrop, a natur yr agwedd hon ar fywyd, yn naws fy mhaentiadau yn ystod y prosiect ‘Atgof o Eira’. Mae fy mhrofiad fy hun o fod yn symudol am gyfnod hir fel arlunydd ar adegau, a hynny mewn gwahanol ardaloedd daearyddol, wedi nodweddu cynnwys y gwaith – gan fod symud ar draws y tir wedi bod yn rhan barhaus o’m bywyd pan wyf wedi byw mewn ardaloedd gwledig ac mewn dinasoedd. Cafodd y paentiadau o’r cyfnod hwn eu creu yn sgil taith dros dir ar fws o Gymru i’r Weriniaeth Tsiec – teithiais i Brâg, ac yna i dirwedd llawn eira a rhew de Moravia a cherdded ar hyd ymylon y llynnoedd o rew cyn dychwelyd i greu’r paentiadau terfynol, sydd tua chwe troedfedd wrth bedair troedfedd o ran maint, yn y stiwdio.

Yr wyf wedi bod ar deithiau tebyg dros dir i Ferlin ac wedi canfod bod hon yn ddinas o newid parhaus yn weledol, wrth i haenau hanes ddatgelu eu hunain.

Cafodd y paentiadau o Ddwyrain Affrica eu cynhyrchu wedi imi dynnu ffotograffau o’r olygfa o’r Safana o awyren fechan pan oeddwn ar brosiect amgylcheddol yn 1999 gyda chwmni ynni haul, grŵp o Masai a Chymdeithas Bywyd Gwyllt o Kenya. Y marciau amlycaf yn y paentiadau hyn yw trywydd anifeiliaid a adawyd ar y ddaear ar ôl mudo a’r marciau siâp cylch a adawyd gan y cytiau crwn/cartrefi a adeiladwyd gan y Masai ac a symudwyd yn ddiweddarach gan deuluoedd cyfan fel mai dim ond arlliw a geir bellach o fywyd domestig.

Fel arlunydd mae fy nheithiau bob amser yn seiliedig ar reddf. Yr wyf yn fwriadol yn osgoi hysbysebion teithio’r brif ffrwd, ac anaml y byddaf yn hedfan. Mae’n well gennyf weld y dirwedd o’r ddaear drwy gydol y daith pan fo hynny’n bosibl, ac wedi imi gyrraedd rwy’n ceisio ymwneud â’r dirwedd ar lefel hynod o bersonol. Yr wyf yn ceisio profi lle gyda chyn lleied o ragdybiaethau â phosibl ond gyda gwybodaeth am hanes cymdeithasol a diwylliannol y lle fel fy mod yn profi gwir naws a dyfnder yr amgylchedd.

Yr wyf yn gwirioni ar dirweddau agored a’r newid mewn goleuni, a chaf fy nenu’n aml at yr elfennau hynny, ac i gofnodi’r adegau gweledol prin hynny ar gynfas.

Yr wyf yn anelu’n bennaf at arddangos fy ngwaith mewn orielau cyhoeddus a chanolfannau celf.

Clare Maynard

Gellir gweld gwaith yr arlunydd ar y gwefannau canlynol hefyd:
» AxisWeb - yr adnodd ar-lein ar gyfer celf gyfoes

Datganiadau i'r Wasg:
» Wales Arts International
» Cyngor Celfyddydau Cymru

 

line

Photo Journal
Landscapes
archif
Biographical details
Email

art@claremaynard.co.uk

Phone

+44 (0)7969 551253

Follow clrmynd7 on Twitter  

All images are copyright © Clare Maynard

Website by Pixelwave Web Design

line